#

Athrawon cyflenwi

 
 

 


Text Box: Y Pwyllgor Deisebau | 1 Mai 2018
 Petitions Committee | 1 Mai 2018
 
 
 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-805

Teitl y ddeiseb: Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw am i athrawon cyflenwi gael eu talu'n deg a chael mynediad llawn at gyfleoedd hyfforddi a thelerau ac amodau eraill. Dylai fod athro cymwys ym mhob ystafell ddosbarth a dylai arian trethdalwyr fod yn cael ei wario'n uniongyrchol ar addysg, heb fynd i bocedi asiantaethau preifat. ​Mae athrawon cyflenwi'n cael cam ac mae athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd na allant fforddio bod yn athrawon cyflenwi.

Mae asiantaethau'n lleihau cyflog athrawon cyflenwi 40 i 60 y cant ac mae athrawon yn colli eu pensiynau. Mae'r sefyllfa'n enghraifft o ddefnyddio arian cyhoeddus i greu elw i'r sector preifat. Mae gwersi'n cael eu darparu gan staff anghymwys.

 

1.       Busnes y Cynulliad Cenedlaethol

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus  ymchwiliad byr i 'Gyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon’ a chyhoeddodd ei  adroddiad  ym mis Mai 2014, gan wneud 14 o argymhellion. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2014. 

Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i athrawon cyflenwi yn 2015.  Cyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 2015.  Ymatebodd Huw Lewis y Gweinidog Addysg ym mis Rhagfyr 2015.

Ymhlith y materion a nodwyd yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, oedd y ffaith nad oedd cyfle i athrawon cyflenwi fanteisio ar raglenni dysgu proffesiynol a bod problemau hefyd ynghlwm wrth ddefnyddio asiantaethau cyflenwi. Roedd llawer o’r dystiolaeth yn awgrymu y gellid lliniaru llawer o’r problemau pe bai cysylltiadau agosach rhwng cyflogwyr athrawon cyflenwi a’r rhai sy’n gyfrifol am addysg mewn ysgolion, er enghraifft, trefniadau clwstwr sy’n cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol neu gorff llywodraethu. Gwnaeth y Pwyllgor argymhelliad cyffredinol y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau gweithio i gynllunio model newydd ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi.

2.       Y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru

Tasglu ar gyfer Model Cyflenwi

Sefydlodd Llywodraeth Cymru yTasglu Gweinidogol ar gyfer Model Cyflenwi ym mis Mehefin 2016 i ystyried materion yn ymwneud ag athrawon cyflenwi.  Cyhoeddwyd ei adroddiad  ar 2 Chwefror 2017. Derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y rhan fwyaf o'r argymhellion. Yn yr adroddiad, ystyriwyd modelau gwahanol ar gyfer athrawon cyflenwi, tebyg i’r rhai sydd ar waith yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd (gweler isod), ond gwelwyd ar unwaith nad oedd dim un ateb a fyddai’n addas ar gyfer Cymru gyfan.

Tâl ac amodau athrawon

Yn achos athrawon a gaiff eu cyflogi gan awdurdod lleol neu ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, mae’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol  yn cyflwyno’r rheolau statudol ynghylch cyflogau athrawon cyflenwi. Fodd bynnag,  nid yw athrawon a gyflogir drwy asiantaethau cyflogi’n cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol na'r ysgol ac felly nid yw'r ddogfen Cyflog ac Amodau’n berthnasol iddynt. Yn gyffredinol, caiff athrawon sy’n perthyn i asiantaeth eu cyflogi gan yr asiantaeth ac, felly, yr asiantaethau unigol sy’n pennu eu cyflog a’u hamodau cyflogaeth. Nid yw athrawon a gaiff eu cyflogi gan asiantaeth cyflenwi’n aelodau o’r Cynllun Pensiwn Athrawon. 

Nodir yn adroddiad y Tasglu Gweinidogol

Ar hyn o bryd, nid yw cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon wedi'u datganoli i Gymru. Pe baent yn cael eu datganoli yn y dyfodol, byddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull mwy rhagweithiol o bennu cyflog ac amodau athrawon cyflenwi.

Mae'r cyfrifoldeb dros bennu cyflog ac amodau athrawon wedi'i ddatganoli erbyn hyn. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n  ymgynghori ar hyn o bryd (tan 4 Mai 2018) ynghylch y model arfaethedig ar gyfer pennu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru. Medi 2019 yw'r dyddiad cynharaf y byddai system gyflog newydd yn dod i rym yng Nghymru. Mae  Deddf Cymru 2017  yn cadw pensiynau athrawon yn ôl fel swyddogaeth heb ei datganoli.

Roedd adroddiad y Tasglu Gweinidogol yn cynnwys  data a gesglir gan Gyngor y Gweithlu Addysg  a ddangosodd fod 46.7 y cant (1,987) o athrawon cyflenwi, ym mis Gorffennaf 2016, yn cael eu cyflogi gan awdurdod lleol o'i gymharu â 50.4 y cant (2,143) a oedd yn cael eu cyflogi gan asiantaeth gyflenwi.

Trefniadau clwstwr

 Ar 24 Hydref 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg brosiect gwerth £2.7 miliwn a fydd yn helpu 15 o awdurdodau lleol i roi trefniadau newydd ar waith ar gyfer athrawon cyflenwi mewn 86 o ysgolion. Bydd y prosiect yn helpu i benodi tua 50 o athrawon a fydd wedi cymhwyso’n ddiweddar i weithio mewn grwpiau o ysgolion, yn ystod absenoldeb athrawon ac i hybu newidiadau ehangach i wella ysgolion a chanlyniadau dysgwyr. Bydd y prosiect peilot yn cael ei gynnal yn ystod blynyddoedd ariannol 2017-18 a 2018-19.

Contract athrawon cyflenwi

Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi sefydlu contract tair blynedd ar gyfer staff cyflenwi a New Directions yw’r 'darparwr a ffefrir'. Daeth y contract i rym ar 1 Awst 2015, ac mae'n para am dair blynedd (gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn am ddeuddeng mis arall). Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i ddefnyddio'r Cytundebau Fframwaith. Mae Awdurdodau Lleol yn disgwyl i ysgolion yn eu hardaloedd ddefnyddio'r fframwaith i ddod o hyd i athrawon cyflenwi. Nid oes raid i ysgolion ddefnyddio’r fframwaith, fodd bynnag, ac mae rhwydd hynt iddynt i ddefnyddio unrhyw ddull o gyflogi athrawon cyflenwi. 

3.       Gogledd Iwerddon

Yn ei hymateb i'r Pwyllgor, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod y Deisebydd yn 'hyrwyddo' model Gogledd Iwerddon ar gyfer athrawon cyflenwi.

Ym mis Mawrth 2004, sefydlwyd Cofrestr Athrawon Wrth Gefn Gogledd Iwerddon (NISTR) gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon, a hynny mewn partneriaeth ag awdurdodau cyflogi, cymdeithasau cymorth a'r undebau athrawon.  Cronfa ddata ganolog ranbarthol yw NISTR ac mae’n cynnwys enw pob athro wrth gefn (cyflenwi) yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n caniatáu i ysgolion lleol ddefnyddio’r gronfa ddata ar fyr rybudd er mwyn dod o hyd i athrawon wrth gefn pan fydd eu hathrawon arferol yn absennol. Caiff yr athrawon wrth gefn eu talu bob mis gan Dîm Cyflogau Athrawon yr Adran Addysg am y cyfnodau y buont yn cyflenwi mewn ysgolion. Ers Medi 2006, rhaid i ysgolion ddefnyddio’r Gofrestr ar-lein i gyflogi athrawon wrth gefn.

Cyflogir athrawon wrth gefn yn unol ag amodau a thelerau gwasanaeth Gogledd Iwerddon. Maent hefyd yn aelodau o Gynllun Pensiwn Athrawon Gogledd Iwerddon (NITPS).

Mewn perthynas â model Gogledd Iwerddon, dywedodd adroddiad y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Model Cyflenwi:

Y manteision amlwg yn gysylltiedig â'r math hwn o fodel yw bod yr holl athrawon dros dro wrth gefn sydd wedi'u cofrestru ar NISTR yn gallu elwa ar gyfres statudol o delerau ac amodau gwasanaeth cenedlaethol, a'r buddion sy'n gysylltiedig â hynny. O'n safbwynt ni, nid yw cyflog ac amodau wedi'u datganoli eto, mae'r dull o recriwtio athrawon cyflenwi yn amrywio, a gwneir defnydd sylweddol o asiantaethau cyflenwi masnachol i fodloni anghenion ysgolion. Yn y cyd-destun presennol, felly, mae'n anodd gweld sut y gallai model canoledig tebyg weithredu o fewn y fframwaith deddfwriaethol a geir ar hyn o bryd yng Nghymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.